Friday, 23 October 2009

HI DE HI

Dim syniad beth yr oeddwn i fod i sgwennu wthnos diwethaf, wthnos yma mae gennyf ychydig fwy o syniad. I ffwrdd a ni ta.

Mi ddechreuodd y drafodaeth wythnos yma gyda ni yn trafod pam bod rhai o ymgeiswyr gwleidyddol (Political Candidates) yn defnyddio bloggio? A daethom i'r canlyniad eu bod nhw yn ei ddefnyddio am nifer o resymau - 1. Mae'n adeiladu rhywfath o gymuned, 2. Caniatau ychydig o ddadlau ac yn 3. Mae'n galluogi'r gwleidydd edrych fel petai yn symyd gyda'r amser. Bellach mae Bloggio wedi dod yn declyn gwleidyddol, a gan ei fod yn brif ffynhonell newyddion mae yn ffordd ddigon syml o gael eich enw alln i'r byd.

Nid oes gan Flogwyr (fel fi) ddim profiad yn y maes newyddiadurol, ond a ydi hi yn bwysig fod blogiau yn dweud y gwir bob amser? Ydi ond mater hollol wahanol ydi os ydynt yn dweud y gwir bob amser? Ar ateb i hwn yn anffodus yw Na. Nid oes gan flogwyr ddim ots am y gwir rhan helaeth o'r amser dim ond eu bod nhw gyda rhywbeth i flogio amdano.Er Enghraifft mae gwahaniaeth rhwng blog Barack Obama a blog mae rhywun wedi ei greu iddo! Os hyn a all unrhyw un ddefnyddio unrhyw flog fel man gwybodaeth? A fuasech yn defnyddio gwybodaeth allan o'r blogiau canlynol?

http://my.barackobama.com/page/content/hqblog
http://www.bbc.co.uk/blogs/theeditors/
http://googleblog.blogspot.com/

Felly mae'r cwestiwn yn dal i sefyll a oes modd defnyddio Blog fel ffynhonell? Yr ateb i hwn yw Na, yn syml gan nad ydych yn gwybod nac yn nabod yr awdur. Ond a allwch ymchwilio iddo? Fedrwch. Sut? os oes ganddynt ddigon o ffynhonellau a chyfeiriadau. A cwestiwn oll bwysig i gau y sesiwn gwestiynnau, a oes modd dyfynnu blogiwr. Wel rhaid i chi ateb y cwestiwn yna eich hun, mae modd ond nid yw'r blogwyr yn mynd drwy yr 'academic peer view' y ffordd mae gwaith academic yn mynd. Felly nid oes neb wedi ei wyrio.

Mae pobl y dyddiau yma yn rhoi gormod o ffydd yn y 'blogging sphere' oherwydd fod y gwybodaeth yn cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, rhaid cofio mai ond barn yw hyn sydd yn cael ei ddweud mewn blog.

Wrth flogio mae RSS - Really Simple Sintication - yn bwysig, mae'n ffordd o yrru y geiriau sydd wedi eu teipio allan o gwmpas y we. Mae RSS feeds yn gyrru y'r erthygl diweddaraf yn syth i'r unigolyn. Mae hyn yn ddefnyddiol gan mae'n galluogi'r unigolyn gael y newyddion yn syth heb orofod fynd yn ol i'r wefan bob amser!!

Nawr mae'n amser mynd yn ol at wythnos diwethaf. Dyma oeddwn i fod i siarad amdan yn fy mlog. Dyma oedd yr ateb cywir i'r cwestiwn. Pam bod angen i ni wneud yr artifact?

Yr ateb yn syml oedd Dysgu drwy Greu! Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i fedru meddwl bod ffasiwn beth yn bod. Fe welon ni y potensial pan wnaethom ddefnyddio Lulu - www.lulu.com. Fe ddaeth llyfr yn rhywbeth posibl i'w wneud pan aethom ar Lulu. Roedd yn bosibl cymysgu cynnwys, ychwanegu gwerth ac ychwanegu rhywbeth mae rhywun angen ei brynu.

Dyma beth sydd yn bwysig i gofio wrth wneud yr artifact.

A dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy am E-publishing

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith

Blog - Just an Opinion!

Sunday, 18 October 2009

HI HI

Wthnos ma mae'r blog yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Dwi ddim yn siwr sut ateb sydd i fod, ond dwi am roi cynnig arni.

Gan fy mod yn gorfod gwneud rhywfath o brosiect E - Publishing fel aseiniad yn y modiwl, wythnos yma rwyf wedi penderfynnu son am project E - Publishing ac sut byddaf gam wrth gam yn mynd ati i'w greu.

I ddechrau rhaid ymchwilio i fewn i'r broblem, beth yn union sydd angen cael ei greu a sut byddech yn ei alw yn E-Publishing. Mae gwahanol fathau o E - Publishing, ond ae angen edrych ar pob un yn ofalus ac gweld pa un sydd yn apelio fwyaf tuag at bobl.

Rwyf wedi penderfynnu fel rhan o fy aseisad mai creu llyfr ar- lein ar ac ei werth ar - lein yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddangos E - Publishing ar ei orau. Mae gwefan Lulu - Lulu.com- yn galluogi rhywun i greu lyfr ac yna ei werth i unrhyw un sydd a diddordeb ei brynu, hyn i gyd heb fynd drwy y publishers!

Fy mwriad i yw creu/ail - greu llyfr Cymraeg ac yna ei wethu ar y we. Mi fuaswn yn ei deipio i gyd yn Word ac yna yn ei lwytho i Lulu. Yn Lulu byddwn yn creu y clawr ar ysgrifen ar y cefn, ac yn bydd yn medru mynd ar werth ar y we. credaf ei fod yn bwysig fod llyfrau o bob iaith yn cael eu rhoi ar y we. Byddai rhaid gwneud yn siwr fod y llwyf yn un poblogaidd neu yn ymwneud gyda topic o ddiddordeb i bobl neu ni fydd gobaith o'i werthu i neb.

Ar ol gorffen y llyfr byddaf yn gobeithio y byddai yn gwerthu. Mantais o greu ar y we yw, fel arfer, mae llyfrau yn rhatach. Gobaith hefyd bydd, fod y llyfr yn un sydd yn rhoi canlyniad da i'r gwaith sydd wedi mynd i'w wneud, bod y llyfr tefynol yn adwaith o'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i'w wneud.

Y gobaith fel dywedais yw creu llyfr ar - lein ac yna ei werth ar - lein drwy y rhaglen Lulu. Ei ddylunio ac yna ei werthu. Ffordd cyflymach ac haws na creu llyfr, drwy fynd i'r publishers.

Un peth sydd yn sicr bydd rhaid ei ddysgu ar y daith yma yw sut ma gwerthu rhywbeth yn dda, sut mae'r nod yn dod yn boblogaidd? Mae pawb wedi dechrau yn rhywle ac wedi gweithio eu ffordd i'r top. Beth oedd y prif droead yng nhwmni Heinz i'w wneud yn boblogaidd. Dod o hyd i'r ffordd o werthu yw rhywbeth bydd rhaid i'w ddysgu i greu rhywbeth yn llwyddianus yn E - Publishing.

Felly dyma yw fy obaith ar gyfer fy aseiniad.

Dyna ni am wythnos yma, fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy o'r modiwl.

Hwyl Fawr am y Tro

Sunday, 11 October 2009

HEI HO

Wythnos wedi pasio eto ac mae'n amser i mi flogio. Gyda mi wythnos diwethaf yn dweud wrthych fy mod wedi cael; fy nrysu yn llwyr yn y ddarlith, roedd darlith wythnos yma yn ryw fath o arweiniad i fyd publisho.

Yn syml(o ryw fath) mae popeth yn cylchdroi o amgylch 'Thomsons' pan mae rhywun yn son am E-Publishing.

Mae i gyd yn cychwyn gyda'r Publishing Industry, sydd i gyd yn cylchdroi o amgylch beth fydd cynnwys y llyfr. Y chwe pwynt bydd rhywun yn chwilio amdano yw Symbolic Content, Right to content, Prossecing Content, Financial capital to convert content, Convert Content into Books a Distribute and Sell converted Content. Yn syml popeth sydd ei angen i wneud yn siwr fod y llyfr yn llwyddo i gyrraedd y shilff. Mae'r diagram yma yn ei ddangos yn fwy syml. Cliciwch Yma

Yn ail mae angen edrych at y Publisher. Popeth mae nhw angen ei wneud ar gyfer y llyfr. Eto mae chwe pwynt mae rhywun yn anelu ato. Content acqutision, List Building, Financial Investment, Content Development, Quality Control a Managment Coordination. Popeth sydd angen i wneud yn siwr fod y llyfr yn llwyddianus.

Yn drydydd mae gennym Publishing Capital. Yn syml beth a pwy sydd ei angen i wneud y llyfr yn llwyddidanus. Human Capital a Intellectual Captital yw dau o'r rhain. Ond y ddau pwysicaf yw Economic Capital a Symbolic Capital - sydd yn tanlinellu hawliau y person sydd piau y llyfr neu y stori.

Ac yn olaf mae cyrraedd y Publishing Field.Ac eto mae gennym 6 nod i anelu ato yma. Type of Content, Type of Market, Lingistic Field, Territorial Field a Technological Field. Yn gryno popeth fydd yn gwneud y llyfr yma yn 'Hit' ar y farchnad.

Mae hyn i gyda yn iawn os os llyfrau un cael eu hysgifennu, ond mae popeth yn ddigidol y dyddiau yma. Oes modd cadw popeth i fynd tra bod amser yn symyd ymlaen. Mae Amazon yn un ffordd o ganiatau hyn, wrth ganiatiau i bobl ysgifennu eu llyfrau eu hunain ac eu rhoi ar werth. Mae hyn yn rhatach ac yn arbed llawer o amser.

Ffordd arall yw dilyn enghraifft gwefan Robin Stone. Mae Robin Stone yn awdur unigryw iawn. Mi gychwynodd ysgifennu storion byr, ac yna cafodd syniad i ysgifennu llyfr, ond nid oedd am wastraffu ei amser os nad oedd neb am ei ddarllen felly gofynnodd i'w fans roi 'Plege' ar ei wefan os yr hoffent weld llyfr ganddo, ac os y busai yn cael digon o adborth y byddai yn ysgrifennu y llyfr.

Ond a yw hyn felly yn golygu ei fod yn ysgrifennu i gael cydnabyddiaeth yn hytrach an oherwydd ei fod yn mwynhau ysgrifennu storiau?

Mae technoleg o hyd yn newid, fel gwelwn uchod ond sut bydd yn newid yn y dyfodol. Yn y Rattle of the Pebble mae'r awdur yn tanlinellu fod y publishing mae ef yn ei adnabod ac wedi arfer gydag ef y newid. A bod y Cottage Industries yn mynd yn fwy a mwy. Y gwir ydi nid oes neb yn gwybod beth sydd pia nhw y dyddiau yma, neb hefo dim syniad. Nid oes gan neb chwaith syniad pa ffordd fydd technoleg yn mynd, ond mae un peth yn sicr mae popeth yn newid.

Wel dyna ni am wythnos yma. Fyddai nol wythnos nesaf gyda mwy o E - Publishing Facts.

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith-:

How wide is a railroad track? As wide as a two horses arse.