Friday, 23 October 2009

HI DE HI

Dim syniad beth yr oeddwn i fod i sgwennu wthnos diwethaf, wthnos yma mae gennyf ychydig fwy o syniad. I ffwrdd a ni ta.

Mi ddechreuodd y drafodaeth wythnos yma gyda ni yn trafod pam bod rhai o ymgeiswyr gwleidyddol (Political Candidates) yn defnyddio bloggio? A daethom i'r canlyniad eu bod nhw yn ei ddefnyddio am nifer o resymau - 1. Mae'n adeiladu rhywfath o gymuned, 2. Caniatau ychydig o ddadlau ac yn 3. Mae'n galluogi'r gwleidydd edrych fel petai yn symyd gyda'r amser. Bellach mae Bloggio wedi dod yn declyn gwleidyddol, a gan ei fod yn brif ffynhonell newyddion mae yn ffordd ddigon syml o gael eich enw alln i'r byd.

Nid oes gan Flogwyr (fel fi) ddim profiad yn y maes newyddiadurol, ond a ydi hi yn bwysig fod blogiau yn dweud y gwir bob amser? Ydi ond mater hollol wahanol ydi os ydynt yn dweud y gwir bob amser? Ar ateb i hwn yn anffodus yw Na. Nid oes gan flogwyr ddim ots am y gwir rhan helaeth o'r amser dim ond eu bod nhw gyda rhywbeth i flogio amdano.Er Enghraifft mae gwahaniaeth rhwng blog Barack Obama a blog mae rhywun wedi ei greu iddo! Os hyn a all unrhyw un ddefnyddio unrhyw flog fel man gwybodaeth? A fuasech yn defnyddio gwybodaeth allan o'r blogiau canlynol?

http://my.barackobama.com/page/content/hqblog
http://www.bbc.co.uk/blogs/theeditors/
http://googleblog.blogspot.com/

Felly mae'r cwestiwn yn dal i sefyll a oes modd defnyddio Blog fel ffynhonell? Yr ateb i hwn yw Na, yn syml gan nad ydych yn gwybod nac yn nabod yr awdur. Ond a allwch ymchwilio iddo? Fedrwch. Sut? os oes ganddynt ddigon o ffynhonellau a chyfeiriadau. A cwestiwn oll bwysig i gau y sesiwn gwestiynnau, a oes modd dyfynnu blogiwr. Wel rhaid i chi ateb y cwestiwn yna eich hun, mae modd ond nid yw'r blogwyr yn mynd drwy yr 'academic peer view' y ffordd mae gwaith academic yn mynd. Felly nid oes neb wedi ei wyrio.

Mae pobl y dyddiau yma yn rhoi gormod o ffydd yn y 'blogging sphere' oherwydd fod y gwybodaeth yn cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, rhaid cofio mai ond barn yw hyn sydd yn cael ei ddweud mewn blog.

Wrth flogio mae RSS - Really Simple Sintication - yn bwysig, mae'n ffordd o yrru y geiriau sydd wedi eu teipio allan o gwmpas y we. Mae RSS feeds yn gyrru y'r erthygl diweddaraf yn syth i'r unigolyn. Mae hyn yn ddefnyddiol gan mae'n galluogi'r unigolyn gael y newyddion yn syth heb orofod fynd yn ol i'r wefan bob amser!!

Nawr mae'n amser mynd yn ol at wythnos diwethaf. Dyma oeddwn i fod i siarad amdan yn fy mlog. Dyma oedd yr ateb cywir i'r cwestiwn. Pam bod angen i ni wneud yr artifact?

Yr ateb yn syml oedd Dysgu drwy Greu! Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i fedru meddwl bod ffasiwn beth yn bod. Fe welon ni y potensial pan wnaethom ddefnyddio Lulu - www.lulu.com. Fe ddaeth llyfr yn rhywbeth posibl i'w wneud pan aethom ar Lulu. Roedd yn bosibl cymysgu cynnwys, ychwanegu gwerth ac ychwanegu rhywbeth mae rhywun angen ei brynu.

Dyma beth sydd yn bwysig i gofio wrth wneud yr artifact.

A dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy am E-publishing

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith

Blog - Just an Opinion!

No comments:

Post a Comment