Thursday, 17 December 2009
Yn y ddarlith ola cyn y gwyliau Nadolig, mi wnaethom benderfynnu ei gadw yn syml ac felly mi wnaethom son am yr Internet.
Y cwestiwn a gafodd ei ofyn oedd a yw Internet yn beth da pan y mae rhywun yn son am bolotics?
Mae pobl yn meddwl y dyddiau yma gallwch wneud rhywbeth ar y we a byth cael eich dal. Ond os ydych yn meddwl hyn rydych yn wyrion iawn. Mae gan bob cyfrifiadur yn y byd rif arbennig iddo ei hun, does dim byd yn breifat. Os ydi rhywun yn bloggio, gall rhywun arall ei dracio i lawr!!
Dywedodd rhywun un waith bod yr Internet yn wahanol i fywyd real. Ond a oes gan unrhyw un ddiffiniad y dyddiau yma o realaeth a bywyd bob dydd? Mae rhai yn cyfri realati yn eistedd o flaen y cyfrifiadur drwy'r dydd yn siarad gyda ei 'Cyber Friends' tra bo gweddill y byd yn cyfri realati bywyd yn mynd allan ac yn cymdeithasu. Y gwir ydi nid oes gan neb wir ddiffiniad o realati, ac felly ni all neb brofi y 'myth' yma.
Un peth mawr sydd wedi dod allan o'r Internet yw E - Publishing. Mae wedi tyfu fel mae'r Internet wedi tyfu. Ond yn anffodus nid ydyw mor syml a mae pobl yn ei feddwl.
Un personoliaeth sydd yn ei ddefnyddio o hyd yw y llywodraeth, maent yn ddefnyddio gyda Teledu, cylchgronau a'r un mwyaf amlwg Internet. Y rheswm dros hyn yw bod Internet yn symyd syniadau ar draws y byd. Mae pawb yn cael gwybod amdanynt. A dyma pam fod y'r Internet yn mynd yn fwy frawychus a frawychus gyda'r munud. Mae yn brysur mynd yn anddiogel, ac mae peryg mai i lawr y ffordd yma bydd yn cario ymlaen i fynd yn y dyfodol.
Ac ar y 'hapus' nodyn yna hoffwn ddweud Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, a gwelai chi yn y flwyddyn newydd.
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith
Just because your voice can be heard doesn't mean anybody's listening!
Sunday, 13 December 2009
Wel gan ein bod yn dod i derfyn ar y tymor ac y Nadolig yn brysur nesau. Wythnos yma mi wnaethom edrych yn ol ar y holl ddarlithoedd a gweld beth oeddym yn meddwl oedd Technoleg, gan ystyried web - publishing, pod, blogging, interactive fiction a visual novels, tri mis ar ol i rhywun ofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf!
Pan yn meddwl am yr holl wahanol ffyrdd o e - publishing yma, roedd gwahanol fathau o syniadau yn dod i fy mhen.
Flash
Meddalwedd Rhaglen
Copyright
Rhyngrwyd
Lincs
Algorithms
I - Phone
Cyfrifiadur
Dyma oedd y syniadau a gefais i ond mewn dosbarth llawn myfyrwyr mae yn amlwg fod pawb yn mynd i gael syniadau ei hunain am beth yw Technoleg ym myd E - Publishing! Felly i wneud pethau yn haws dyma siart pry - cop yn dangos wahanol syniadau myfyrwyr ynglyn ar pwnc.
C:\Documents and Settings\Catrin\My Documents\PUB11.html
Roedd atebion pawb yn hollol wahanol, fel gwelwch yn y diagram.
Credaf fod hyn yn dangos nad os yna un wir ystyr i E - Publishing na Thechnoleg. Mae gan pawb ei safbwynt ei hun, a credaf fod cael safbwynt personnol yn bwysig i wneud yn siwr fod popeth yn cario ymlaen i ddatblygu.
A fydd gan rhywun un eglurhad o E - Publishing yn y dyfodol? Pwy a wyr, ond dwi'n siwr mewn blynyddoedd i ddod gall rhyun ateb y cwestiwn yma.
Wel dyna ni am wythnos yma. Fyddai yn ol wythnos nesaf i drafod mwy am E - publishing ac os yn bosib Podcastio!!
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg yr Wythnos
Think Critically!!
Sunday, 6 December 2009
Wel wythnos yma roeddan ni yn edrych ar Interactive Fiction - ond yn Raffigol! Yn syml - Visual Novels - nofelau sydd yn cael eu rhoi ar wefan ar ffurf llyfr llun. Un enghraifft dda o hyn yw Inanimate Alice www.inanimatealice.com/. Mae yna ychydig o Interactivity yn mynd ymlaen yma, pan mae'r defnyddiwr yn clicio i symyd y stori ymlaen. Mae storiau fel hyn gallu bod yn ddiddorol iawn os mai un person sydd yn eu darllen, os oes mwy na un gall fod yn ddiflas gan fod cyn lleied o Interactivity ynddo, mae'r clicio ond i un person ac felly byddai y llall yn gwylio ac efallai yn cael ei diflasu.
Mae storiau fel rhain i'w gweld mewn llawer i ffyrdd. Un amlwg sydd ar gael i blant yw'r gyfer 'Leap Frog' - http://www.leapfrog.com/en_gb/new_home.html. Mae Leap Frog yn gwmni sydd yn creu storiau ar ffurf gem ar gyfer plant. Mae llyfrau fel hyn yn mynd ers llawer i flwyddyn ac wedi cael eu datblygu fel mae technoleg yn symyd yn ei flaen. Mae rhaglenni teledu hefyd yn galluogi ychydig o ryngweithio. Mae gwefan y rhaglen Seasame Street - http://pbskids.org/sesame/#/games yn cynnwys gemau rhyngweithiol, llwyfrau syddyn galluogi y plant glicio ar y saeth i symyd y stori ymlaen. Dim byd rhy ffansi ond mae yn ffordd o gysylltu y plant gyda'r stori. Ond nid rhaglenni plant yn unig sydd yn galluogi hyn, Nadolig 2005 rhoddodd y BBC siawns i'r gwilwyr ymuno yn ei rhaglenni drwy roi taith rhyngweithiol ar y botwm coch. Doctor Who oedd y gem arbennig yma, a bellach mai ei gweld ar y wefan - http://www.bbc.co.uk/doctorwho/s4/games/attack-of-the-graske/. pwrpas y gem oedd dewis y ffordd cywir ar defnyddiau cywir i ddal y Graske! Roedd hon yn gem hynod o ryngweithiol gan ei bod yn galluogi y gwilwyr i ddewis y ffordd. Ond nid Doctor Who yw'r unig raglen sydd wedi gadael i'r gwilwyr ddewis diweddglo y stori. Yn 2005 fel wnaeth Casualty rhyddhau rhifyn arbennig o'u rhaglen yn cydfynd gyda wythnos DoNation. Roedd y rhifyn yma yn edrych ar fywyd dau wahanol glaf oedd angen organ transplant ond dim ond un oedd ar gael, ar ol cael ychydig o'u hanes swydd y gwilwyr oedd i ddewis pa un oedd am gael y llawdriniaeth, roedd yn galluogi y gwilwyr wneud y dewisdros y doctoriaid! http://www.bbc.co.uk/drama/casualty/donation/ / http://www.holby.tv/community/index.php?showtopic=45733.
Ar wahan i raglenni teledu mae Papur newydd hefyd yn cael ei ystyried fel math o ryngweithio, gan fod y darllenwr bob amser yn dewis y stori mae angen ei ddarllen yn hytrach na darllen pob stori. Mae tudalen fel hon gan y Daily Post http://www.dailypost.co.uk/ yn galluogi y darllenwyr ddewis y stori fydd yn eu harwain i wahanol storiau yn hytrach na dilyn pob tudalen fesul un!
Rhaglen o'r enw Ren'py - http://www.renpy.org/wiki/renpy/Ren%27Py - sydd yn gyfrifol am greu interactive fiction fel rhain. A gall unryw un ddefnyddio y rhaglen, ond eich bod nhw yn ei lawrlwytho i ddechrau!
A dyna ni am yr wythnos yma. Mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy am E - Publishing.
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith
Digital - Great Power
Sunday, 29 November 2009
Wel am wythnos diddorol ....... dim darlith!!!! (Joc)
Oherwydd nad oedd yna ddarlith, rwyf wedi penderfynnu son ychydig am Podledu.
Ystur Podledu yw Castio rhywbeth i'r iPod. Medru ei weld ar y iPod lle bynnag y byddwch yn mynd. Medru gwylio clip teledu neu radio lle bynnag y byddwch yn y byd. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Podledu wedi dod yn boblogaidd iawn, mae mor syml a blogio, ac yr un mwyaf poblogaidd yw BBC i Player - http://www.bbc.co.uk/iplayer/. Mae modd gwylio unrhyw raglen BBC ar y BBC i Player ac hefyd mae modd ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur fel ei fod yn haws ei wylio. Mae mwy o sianeli podledu ar gael ar y we hefyd -
http://www.s4c.co.uk/clic/e_index.shtml
http://www.itv.com/ITVPlayer/
http://demand.five.tv/Home.aspx
Mae'r sianeli teledu yma yn galluogi unrhyw un ailwylio ei rhaglenni am ddim ar we, heb orfod ei roi ar dap. Ond nid yn unig rhaglenni teledu sydd yn cael ei wneud ar gyfer yr iPod, mae rhaglenni radio hefyd -
Sunday, 22 November 2009
Wythnos yma yn dilyn asesiad anffurfiol 'r blogiau, fe fuon ni yn trafod yn syml ....... Blogs!
Y cwestiwn a gafodd ei ofyn oedd beth yn union sydd yn gwneud Blog. A oes yna ffordd penodol o wneud Blog? A oes yna unrhyw beth penodol i fod i gael ei gynnwys mewn Blog?
Wel y cwestiwn pwysig a gafodd ei ofyn oedd, pan rydych yn blogio a'i chi sydd y siarad neu a ydych yn cuddio tu ol i rhywbeth neu rhywun arall. Yn fy marn i credaf fod nad yw pobl yn cuddio tu ol i ddim wrth flogio, credaf fod blog yn rhoi cyfle i bobl fentio am eu barn am bethau bob dydd. Mae amrywiad o ffordd i bobl rhoi ei barn, credaf fod ysgifennu mewn blog yn rhoi y rhyddid iddynt leisio ei barn ac rhoi cyfle i bobl eraill gytuno neu angytuno gyda nhw. http://www.richarddows.co.uk/ Mae'r blog yma yn cael ei adnewyddu yn aml gyda ei farn am wahanol bethau bob wythnos. Mae'n amlwg nad yw y blogiwr ym yn cuddio tu ol i ddim.
Gan fod blogio yn rhywbeth personnol, a yw hi yn bwysig fod y dudalen flogio yn un personnol a 'friendly' pan rydych yn mynd iddi? Credaf fod adio ychydig o luniau yn ei gwneud yn haws i rywun fwynhau y dudalen, mae'n rhoi datganid personnol iddi. Mae blogs megis http://www.behindthesofa.org.uk/ yn tynnu sylw a cadw diddordeb yn syth gan fod yn ddigon o liwiau a lluniau arni i gadw diddordeb pobl. Mae'r blog yma http://www.jeffsweather.com/ hefyd yn un diddorol gan fod yma luniau sydd yn cyfateb gyda'r ysgifen sydd arni. Yn wahanol i'r blog yma http://www.nydailynews.com/blogs/dailypolitics/2008/12/details-of-a-leadership-deal.html sydd ychydig yn fwy diflas gan nad oes yna luniau ond ysgrifen ac yn comments.
Mae'n bwysig os ydych yn flogiwr dyddiol fod eich blog yn un llwyddianus! Ar un peth sydd yn gwneud blog yn llwyddianus yw comments gan ddefnyddiwr eraill. gan mai comments fydd yn denu pobl i ddod yn ol i ddarllen y blog a gweld beth mae pobl eraill yn feddwl amdano, ac yna yn adio comment arall ei hunain i gadw y cyfathrebu fynd yn ei flaen. Ond i gael comments mae rhaid pobl weld a sylwi ar eich blog a'r ffordd hawdd o wneud hyn yw, creu links i wahanol wefanau, fel hyn bydd pobl yn sylwi ar eich blog ac yn talu sylw. Credaf fod blogs yn ffordd da o ddod a pobl at ei gilydd, a dyma pam gredaf fuasai blog llawn lluniau yn un hollol llwyddianus. http://www.picturedreams-studio-blog.blogspot.com/, http://picturethisgallery.wordpress.com/, dyma ddau flog agosaf a ddois o hyd iddynt yn dangos lluniau yn unig (gyda ychydig o hanes tu ol i'r llun). Mae'n amlwg fod y blogiau yma yn gweithio gan fod pobl yn gadael comments ar y lluniau. Yn fy marn i credaf fod lluniau yn rhywbeth haws i'w drafod yn aml iawn na ddarn o ysgrifen, a dyna pam credaf y byddai yn syniad fyddai yn llwyddo yn syth. Mae flicker yn enghraifft wych o blog lluniau unig sydd wedi llwyddo http://www.flickr.com/photos/ccgd/107274692/.
Mae blogio yn hynod bloblogaidd y dyddiau yma, mae rhywun wedi creu gwefan yn cylchdroi o'i hamgylch - Flock. http://www.flock.com/ yw browser sydd yn galluogi dod o hyd i flogiau yn syml. Mae hyn yn dangos poblogrwydd blogiau ym mywyd bob dydd pobl y genhedlaeth yma.
Wel dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn nol wythnos nesaf gyda mwy am E - Publishing
Hwyl Fawr am y Tro
Barawddeg y Ddarlith -: Succsesful Blog - Transforming a group of Comments
Sunday, 15 November 2009
Wel, nid oes llawer i'w ddweud wythnos yma am E - Publishing gan nad oedd gennym ddarlith, oherwydd ei bod hi yn wythnos ddarllen. Felly nid oes gennyf ddim syniad beth i'w ysgifennu!
Ond mi ddywedai hyn wrthych, rwyf wedi llwyddo i fynd ymhellach yn y gem Hichhikers Guide to the galaxy. Heb ddefnyddio'r 'Cheat Sheet' fel lwyddais i gyrraedd y pub a myn d tu allan mewn da bryd i weld y spaceships. Ond yn anffodus mi es yn sownd yn y rhan yma ac felly fe gefais fy lladd!!!!!!!!
A oes rhywun wedi llwyddo i basio'r rhan yma? (Heb y Cheat Sheet)
A dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn nol wythnos nesaf gyda mwy am E - Publishing.
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg yr Wythnos
'Hint for the Game -Buy a Sandwich'
Friday, 6 November 2009
Wythnos yma roedd y ddarlith yn cael ei chylchdoi o amgylch gemau cyfrifiauron ar y we. Gemau sydd yn defnydio dim lluniau ond ysgrifen i'w datrys.
http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1383
Dyma oedd y gem a wnethom ni ei chwarae yn y ddarlith! Hichhiker's Guide to the Galaxy. Mae cefndir tu ol y gem un cymleth iawn. Yn syml mae hon yn stori sydd wedi cael gwneud yn raglen Teledu, Radio ac yn ffilm. Am ychydig o gefndir i'r stori cliciwch yma -:
www.imdb.com/title/tt0371724
Gemau gan Infocall oedd rhain yn wreiddiol, gemau fel Suspect, Zork 1,2,3 a Mind forver Voaging, gemau sydd yn hollol cael eu chwarae gyda geiriau yn unig - dim lluniau. Y syniad tu ol i'r gemau yma oedd gwneud yn siwr mai ni oedd y prif gymeriad!
Yn syml ffordd wahanol o gyfleu eich hun yw hon ond yn anffodus ni allai weithio heb gyfrifiadur.
Mae angen skill deall iaith ar gyfer chwarae y gemau yma oherwydd wrth symyd ymlaen byddwch yn medru dysgu'r iaith ac felly yn medru deall y gem.
Mae pob gem sydd bob amser yn cael ei chreu bob amser yn cael ei chreu mewn time - bound, sydd yn golygu fod yna ddilyniant i'r gem bob amser. Felly mae yna ddewis bob amser yn cael ei wneud iddych.
A oes gan gem fel hyn botensial? Faint o wahanol ydyw i lyfr heb stori?
Yn syml, ddim yn wahanol o gwbl, gall gem fel hyn yn hawdd iawn cael ei chylchdroi a'i gwneud fel stori fer.
Wrth chwarae y gemau yma maent yn edrych yn gymleth iawn, ond ae'r broses o greu gem fel hon yn un syml iawn, unwaith ydych wedi dysgu'r iaith! Mae rhaglen Inform 7 - http://inform7.com/ yn caniatau creu gem fel hon yn syml ac yn gyflym, gall y meddalwedd gael ei roi ar eich ffon symudol hefyd.
Wel dyna ni am wythnos yma, rwyf am fynd nawr i drio datrys mwy o'r gemau yma! Mi fyddai yn ol wythnos nesaf, cewch wybod sut athi gyda'r gemau!
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith -:
'Don't Panic!'
Sunday, 1 November 2009
Wel am ddarlith diddorol wythnos yma hefo lot o luniau yn cael eu gwneud, mwy am hynna wedyn.
Dechreuodd y ddarlith gyda'r dosbarth yn cael diffiniad pellach o E-Publishing a Destructive Technology. Galluogi pobl i ychwanegu deunydd at waith rhywun arall, ar cyfrifiadur yn ei sortio, dyna yw E - Publishing. Yn wahanol i Destructive Technology, ble mae effaith yn effeithio ar eraill heb feddwl yn y byd cyhoeddi. Yna aethom ymlaen i siarad am E - Publishing yn y byd newyddion.
Y stori roeddym yn ei defnyddio fel enghraifft oedd Koradzic boycott start of trail - www.news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8325096. Fel arfer petai stori fel hon yn dod allan yn y newyddion, byddai rhyw ddyn bach wrth ddesg yn brysur yn ei theipio hi allan erbyn diwrnod wedyn, yna wythnos wedyn byddai y comments am y stori yn cael ei rhoi ar dudalen yn y papur. Ac ar ol hyn byddai y stori yn diflanu o'r newyddion.
Mae'r we yn galluogi pobl gael fersiwn newydd o'r newyddion, gyda links a comment yn cyrraedd o fewn eiliadau i'r stori. Mae pob link fel pennod mewn llyfr yn ein arwain at rhywbeth newydd. Mae fideos hefyd yn galluogi pobl i gael gweld y stori yn hyrach na darllen amdani. Mae links hefyd yn ddefnyddiol ar waelod stori ar y we sydd yn galluogi y darllenwyr weld storiau sydd yn debyg neu ymwneud hefo'r stori, hefyd mae links sydd yn gallu gwneud stori yn boblogaidd fel Facebook a E-mail Friend. Mae'r link fel arfer yn rheoli y stori ac felly yn arwain y pobl i wahanol lefydd, drwy ddefnyddio Hyperlink, maent yn galluneidio o un stori i'r llall.
Mae Video a Audio links yn dangos i'r darllenwyr sut ddigwyddodd y digwyddiadau, ond problem gyda hyn yw mae ychydig yn araf pan yn llwytho. Ond mae'n well gan rhai wylio y fideo i gael mwy am y stori. Ond a yw fideos yn gwneud cyfiawnder i'r stori? Gallent ddweud y stori hollol anghywir gyda'r un clip maent wedi eu ddewis. Mae links yn ddefnydiol yndi, ond a allai ormod o links wneud rhywun fynd ar goll?
Mae gwefan Americanaidd Washington Post - http://www.washingtonpost.com/ yn dangos y comment ar y dudalen i bawb cael eu gweld, fel mae gwefan papur newydd y Sun. - www.thesun.co.uk/sol/homepage/, ond hefo papur newydd maent yn cymryd diwrnod ychwanegol. Ond a oes gan Gomment effaith ar stori? Gall newid ystyr y stroi? Un problem gyda'r comments yw does gan neb syniad pwy sydd yn ei gadael ond mae un peth yn sicr, eu bod yn gwneud y stori yn fwy diddorol ac yn fwy poblogaidd.
Wrth son am hyn mae'n gwneud rhywun feddwl, a oes rhywun yn rheoli beth sydd yn cael ei gynnwys ar y we? Oes siwr iawn a'r Gate Keeper sydd yn gyfrifol am reoli pa wybodaeth mae'r pobl yn ei gael. Mae gwefan Archipelago - http://www.archipelago.org/ sydd yn dangos gwaith y cyhoedd ar y we, gwaith megis cerddi a storiau byr yn enghraifft wych gan fod y Gate Keeper yn cal ei ddefnyddio yma i ddarllen dros y gwaith cyn iddo cael ei roi ar y wefan.
Dyma ddau ddiagram yn dangos y broses yn syml! Cliciwch Yma
Wrth greu gwefan fel hon mae chwepwynt sydd yn bwysig ei ddilyn i gael llwyddiant -:
C - Clients - T pobl fydd yn ei ddarllen
A - Actors - Y pobl fydd yn gwneud y rhaglen i fynu e.e y cynllunwyr a'r ysgrifennwyr
T - Transformations - Y newid fydd yn digwydd cyn ychwanegu y gwaith at y wefan
W - Worldwide - Y sylw bydd yn ei gael ar draws y byd, y comments fydd yn cael ei gadael
O - Owner - Y Person sydd yn gyfrifol am y wefan
E - Enviroment - Popeth sydd yn effeithio arno na all y defnyddiwr wneud dim byd amdano!
Wrth ddilyn y chwe pwynt yma mae posib i redeg gwefan llwyddianus. Dyma ddiagram yn dangos sut byddai yn gweithio wrth ddefnyddio Lulu i gyhoeddi llyfr Hanes Lleol i'w werthu ar Amazon. Cliciwch yma i weld y diagram!
Dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy o wybodaeth a gobeithio mwy o ddiagramau am E - Publishing.
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith -:
'If you check your facts, you lose the story'
Friday, 23 October 2009
Dim syniad beth yr oeddwn i fod i sgwennu wthnos diwethaf, wthnos yma mae gennyf ychydig fwy o syniad. I ffwrdd a ni ta.
Mi ddechreuodd y drafodaeth wythnos yma gyda ni yn trafod pam bod rhai o ymgeiswyr gwleidyddol (Political Candidates) yn defnyddio bloggio? A daethom i'r canlyniad eu bod nhw yn ei ddefnyddio am nifer o resymau - 1. Mae'n adeiladu rhywfath o gymuned, 2. Caniatau ychydig o ddadlau ac yn 3. Mae'n galluogi'r gwleidydd edrych fel petai yn symyd gyda'r amser. Bellach mae Bloggio wedi dod yn declyn gwleidyddol, a gan ei fod yn brif ffynhonell newyddion mae yn ffordd ddigon syml o gael eich enw alln i'r byd.
Nid oes gan Flogwyr (fel fi) ddim profiad yn y maes newyddiadurol, ond a ydi hi yn bwysig fod blogiau yn dweud y gwir bob amser? Ydi ond mater hollol wahanol ydi os ydynt yn dweud y gwir bob amser? Ar ateb i hwn yn anffodus yw Na. Nid oes gan flogwyr ddim ots am y gwir rhan helaeth o'r amser dim ond eu bod nhw gyda rhywbeth i flogio amdano.Er Enghraifft mae gwahaniaeth rhwng blog Barack Obama a blog mae rhywun wedi ei greu iddo! Os hyn a all unrhyw un ddefnyddio unrhyw flog fel man gwybodaeth? A fuasech yn defnyddio gwybodaeth allan o'r blogiau canlynol?
http://my.barackobama.com/page/content/hqblog
http://www.bbc.co.uk/blogs/theeditors/
http://googleblog.blogspot.com/
Felly mae'r cwestiwn yn dal i sefyll a oes modd defnyddio Blog fel ffynhonell? Yr ateb i hwn yw Na, yn syml gan nad ydych yn gwybod nac yn nabod yr awdur. Ond a allwch ymchwilio iddo? Fedrwch. Sut? os oes ganddynt ddigon o ffynhonellau a chyfeiriadau. A cwestiwn oll bwysig i gau y sesiwn gwestiynnau, a oes modd dyfynnu blogiwr. Wel rhaid i chi ateb y cwestiwn yna eich hun, mae modd ond nid yw'r blogwyr yn mynd drwy yr 'academic peer view' y ffordd mae gwaith academic yn mynd. Felly nid oes neb wedi ei wyrio.
Mae pobl y dyddiau yma yn rhoi gormod o ffydd yn y 'blogging sphere' oherwydd fod y gwybodaeth yn cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, rhaid cofio mai ond barn yw hyn sydd yn cael ei ddweud mewn blog.
Wrth flogio mae RSS - Really Simple Sintication - yn bwysig, mae'n ffordd o yrru y geiriau sydd wedi eu teipio allan o gwmpas y we. Mae RSS feeds yn gyrru y'r erthygl diweddaraf yn syth i'r unigolyn. Mae hyn yn ddefnyddiol gan mae'n galluogi'r unigolyn gael y newyddion yn syth heb orofod fynd yn ol i'r wefan bob amser!!
Nawr mae'n amser mynd yn ol at wythnos diwethaf. Dyma oeddwn i fod i siarad amdan yn fy mlog. Dyma oedd yr ateb cywir i'r cwestiwn. Pam bod angen i ni wneud yr artifact?
Yr ateb yn syml oedd Dysgu drwy Greu! Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i fedru meddwl bod ffasiwn beth yn bod. Fe welon ni y potensial pan wnaethom ddefnyddio Lulu - www.lulu.com. Fe ddaeth llyfr yn rhywbeth posibl i'w wneud pan aethom ar Lulu. Roedd yn bosibl cymysgu cynnwys, ychwanegu gwerth ac ychwanegu rhywbeth mae rhywun angen ei brynu.
Dyma beth sydd yn bwysig i gofio wrth wneud yr artifact.
A dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy am E-publishing
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith
Blog - Just an Opinion!
Sunday, 18 October 2009
Wthnos ma mae'r blog yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Dwi ddim yn siwr sut ateb sydd i fod, ond dwi am roi cynnig arni.
Gan fy mod yn gorfod gwneud rhywfath o brosiect E - Publishing fel aseiniad yn y modiwl, wythnos yma rwyf wedi penderfynnu son am project E - Publishing ac sut byddaf gam wrth gam yn mynd ati i'w greu.
I ddechrau rhaid ymchwilio i fewn i'r broblem, beth yn union sydd angen cael ei greu a sut byddech yn ei alw yn E-Publishing. Mae gwahanol fathau o E - Publishing, ond ae angen edrych ar pob un yn ofalus ac gweld pa un sydd yn apelio fwyaf tuag at bobl.
Rwyf wedi penderfynnu fel rhan o fy aseisad mai creu llyfr ar- lein ar ac ei werth ar - lein yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddangos E - Publishing ar ei orau. Mae gwefan Lulu - Lulu.com- yn galluogi rhywun i greu lyfr ac yna ei werth i unrhyw un sydd a diddordeb ei brynu, hyn i gyd heb fynd drwy y publishers!
Fy mwriad i yw creu/ail - greu llyfr Cymraeg ac yna ei wethu ar y we. Mi fuaswn yn ei deipio i gyd yn Word ac yna yn ei lwytho i Lulu. Yn Lulu byddwn yn creu y clawr ar ysgrifen ar y cefn, ac yn bydd yn medru mynd ar werth ar y we. credaf ei fod yn bwysig fod llyfrau o bob iaith yn cael eu rhoi ar y we. Byddai rhaid gwneud yn siwr fod y llwyf yn un poblogaidd neu yn ymwneud gyda topic o ddiddordeb i bobl neu ni fydd gobaith o'i werthu i neb.
Ar ol gorffen y llyfr byddaf yn gobeithio y byddai yn gwerthu. Mantais o greu ar y we yw, fel arfer, mae llyfrau yn rhatach. Gobaith hefyd bydd, fod y llyfr yn un sydd yn rhoi canlyniad da i'r gwaith sydd wedi mynd i'w wneud, bod y llyfr tefynol yn adwaith o'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i'w wneud.
Y gobaith fel dywedais yw creu llyfr ar - lein ac yna ei werth ar - lein drwy y rhaglen Lulu. Ei ddylunio ac yna ei werthu. Ffordd cyflymach ac haws na creu llyfr, drwy fynd i'r publishers.
Un peth sydd yn sicr bydd rhaid ei ddysgu ar y daith yma yw sut ma gwerthu rhywbeth yn dda, sut mae'r nod yn dod yn boblogaidd? Mae pawb wedi dechrau yn rhywle ac wedi gweithio eu ffordd i'r top. Beth oedd y prif droead yng nhwmni Heinz i'w wneud yn boblogaidd. Dod o hyd i'r ffordd o werthu yw rhywbeth bydd rhaid i'w ddysgu i greu rhywbeth yn llwyddianus yn E - Publishing.
Felly dyma yw fy obaith ar gyfer fy aseiniad.
Dyna ni am wythnos yma, fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy o'r modiwl.
Hwyl Fawr am y Tro
Sunday, 11 October 2009
Wythnos wedi pasio eto ac mae'n amser i mi flogio. Gyda mi wythnos diwethaf yn dweud wrthych fy mod wedi cael; fy nrysu yn llwyr yn y ddarlith, roedd darlith wythnos yma yn ryw fath o arweiniad i fyd publisho.
Yn syml(o ryw fath) mae popeth yn cylchdroi o amgylch 'Thomsons' pan mae rhywun yn son am E-Publishing.
Mae i gyd yn cychwyn gyda'r Publishing Industry, sydd i gyd yn cylchdroi o amgylch beth fydd cynnwys y llyfr. Y chwe pwynt bydd rhywun yn chwilio amdano yw Symbolic Content, Right to content, Prossecing Content, Financial capital to convert content, Convert Content into Books a Distribute and Sell converted Content. Yn syml popeth sydd ei angen i wneud yn siwr fod y llyfr yn llwyddo i gyrraedd y shilff. Mae'r diagram yma yn ei ddangos yn fwy syml. Cliciwch Yma
Yn ail mae angen edrych at y Publisher. Popeth mae nhw angen ei wneud ar gyfer y llyfr. Eto mae chwe pwynt mae rhywun yn anelu ato. Content acqutision, List Building, Financial Investment, Content Development, Quality Control a Managment Coordination. Popeth sydd angen i wneud yn siwr fod y llyfr yn llwyddianus.
Yn drydydd mae gennym Publishing Capital. Yn syml beth a pwy sydd ei angen i wneud y llyfr yn llwyddidanus. Human Capital a Intellectual Captital yw dau o'r rhain. Ond y ddau pwysicaf yw Economic Capital a Symbolic Capital - sydd yn tanlinellu hawliau y person sydd piau y llyfr neu y stori.
Ac yn olaf mae cyrraedd y Publishing Field.Ac eto mae gennym 6 nod i anelu ato yma. Type of Content, Type of Market, Lingistic Field, Territorial Field a Technological Field. Yn gryno popeth fydd yn gwneud y llyfr yma yn 'Hit' ar y farchnad.
Mae hyn i gyda yn iawn os os llyfrau un cael eu hysgifennu, ond mae popeth yn ddigidol y dyddiau yma. Oes modd cadw popeth i fynd tra bod amser yn symyd ymlaen. Mae Amazon yn un ffordd o ganiatau hyn, wrth ganiatiau i bobl ysgifennu eu llyfrau eu hunain ac eu rhoi ar werth. Mae hyn yn rhatach ac yn arbed llawer o amser.
Ffordd arall yw dilyn enghraifft gwefan Robin Stone. Mae Robin Stone yn awdur unigryw iawn. Mi gychwynodd ysgifennu storion byr, ac yna cafodd syniad i ysgifennu llyfr, ond nid oedd am wastraffu ei amser os nad oedd neb am ei ddarllen felly gofynnodd i'w fans roi 'Plege' ar ei wefan os yr hoffent weld llyfr ganddo, ac os y busai yn cael digon o adborth y byddai yn ysgrifennu y llyfr.
Ond a yw hyn felly yn golygu ei fod yn ysgrifennu i gael cydnabyddiaeth yn hytrach an oherwydd ei fod yn mwynhau ysgrifennu storiau?
Mae technoleg o hyd yn newid, fel gwelwn uchod ond sut bydd yn newid yn y dyfodol. Yn y Rattle of the Pebble mae'r awdur yn tanlinellu fod y publishing mae ef yn ei adnabod ac wedi arfer gydag ef y newid. A bod y Cottage Industries yn mynd yn fwy a mwy. Y gwir ydi nid oes neb yn gwybod beth sydd pia nhw y dyddiau yma, neb hefo dim syniad. Nid oes gan neb chwaith syniad pa ffordd fydd technoleg yn mynd, ond mae un peth yn sicr mae popeth yn newid.
Wel dyna ni am wythnos yma. Fyddai nol wythnos nesaf gyda mwy o E - Publishing Facts.
Hwyl Fawr am y Tro
Brawddeg y Ddarlith-:
How wide is a railroad track? As wide as a two horses arse.
Wednesday, 30 September 2009
Wow. Pan wnes i gyrraedd y coleg ddoe roedd gennyf ryw fath o syniad beth oedd E-Publishing, pan oeddwn i yn gadael, roedd y syniad yma wedi diflanu ac roedd popeth yn reit sydyn wedi troi yn eithaf cymleth.
OK, lle da i gychwyn deall y pwnc yw gyda y gair 'Publishing'. Pwy fysai yn meddwl bod mwy nag un rhan i gyhoeddi Llyfr. Golygir y gair 'Publishing' - Design, Proofread, Printing and Biding, Sale and Marketing, Warehouse Industibusion(Rhoi y llyfr allan i'r cyhoedd) a Money Flow.
Mae angen rhain i gyd i gyhoeddi llyfr, ond a oes angen rhain i gyd y gyhoeddi rhywbeth yn Electroneg?
Mae cymaint o wahanol ffyrdd o cyhoeddi rhywbeth ar y we - E-Book, Online journals and Stories (Llawer yn lle 1), Podcasting, Visual Novel, Interactive Fiction (sydd bellach wedi marw allan), Bloging a Calabrative Fiction(newid story wrth fynd ymlaen).
Nawr yr unig beth rydym angen ymchwilio iddo ydi, sut mae hyn i gyd yn gweithio?
Pan fyddai wedi dod o hyd i'r ateb mi ddywedai wrthych.
Mae gan llawer fersiwn gwahanol o ystyr E-Publishing, credai rhai mai ffordd o ddweud stori ydyw, crdai eraill mai 'Multimedia Platform' heb reolau ydyw. Ond gobethio ydwyf i a gweddill y myfyrwyr yw i gael un eglurhad ar gyfer E-Publishing.
Dwi am ddiflanu nawr i ddarllen ychydig am y pwnc. Fyddai yn nol wythnos nesaf i drafod mwy am E-Publishing.
Hwyl Fawr am y Tro.
BRAWDDEG Y DDARLITH-:
'Nothing Stays The Same. Everything Changes'