Friday, 6 November 2009

HI HI

Wythnos yma roedd y ddarlith yn cael ei chylchdoi o amgylch gemau cyfrifiauron ar y we. Gemau sydd yn defnydio dim lluniau ond ysgrifen i'w datrys.

http://tlrg.bangor.ac.uk/moodle/mod/resource/view.php?id=1383

Dyma oedd y gem a wnethom ni ei chwarae yn y ddarlith! Hichhiker's Guide to the Galaxy. Mae cefndir tu ol y gem un cymleth iawn. Yn syml mae hon yn stori sydd wedi cael gwneud yn raglen Teledu, Radio ac yn ffilm. Am ychydig o gefndir i'r stori cliciwch yma -:

www.imdb.com/title/tt0371724

Gemau gan Infocall oedd rhain yn wreiddiol, gemau fel Suspect, Zork 1,2,3 a Mind forver Voaging, gemau sydd yn hollol cael eu chwarae gyda geiriau yn unig - dim lluniau. Y syniad tu ol i'r gemau yma oedd gwneud yn siwr mai ni oedd y prif gymeriad!

Yn syml ffordd wahanol o gyfleu eich hun yw hon ond yn anffodus ni allai weithio heb gyfrifiadur.
Mae angen skill deall iaith ar gyfer chwarae y gemau yma oherwydd wrth symyd ymlaen byddwch yn medru dysgu'r iaith ac felly yn medru deall y gem.

Mae pob gem sydd bob amser yn cael ei chreu bob amser yn cael ei chreu mewn time - bound, sydd yn golygu fod yna ddilyniant i'r gem bob amser. Felly mae yna ddewis bob amser yn cael ei wneud iddych.

A oes gan gem fel hyn botensial? Faint o wahanol ydyw i lyfr heb stori?

Yn syml, ddim yn wahanol o gwbl, gall gem fel hyn yn hawdd iawn cael ei chylchdroi a'i gwneud fel stori fer.

Wrth chwarae y gemau yma maent yn edrych yn gymleth iawn, ond ae'r broses o greu gem fel hon yn un syml iawn, unwaith ydych wedi dysgu'r iaith! Mae rhaglen Inform 7 - http://inform7.com/ yn caniatau creu gem fel hon yn syml ac yn gyflym, gall y meddalwedd gael ei roi ar eich ffon symudol hefyd.

Wel dyna ni am wythnos yma, rwyf am fynd nawr i drio datrys mwy o'r gemau yma! Mi fyddai yn ol wythnos nesaf, cewch wybod sut athi gyda'r gemau!

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith -:

'Don't Panic!'

No comments:

Post a Comment