Sunday, 22 November 2009

Hei Ho

Wythnos yma yn dilyn asesiad anffurfiol 'r blogiau, fe fuon ni yn trafod yn syml ....... Blogs!

Y cwestiwn a gafodd ei ofyn oedd beth yn union sydd yn gwneud Blog. A oes yna ffordd penodol o wneud Blog? A oes yna unrhyw beth penodol i fod i gael ei gynnwys mewn Blog?

Wel y cwestiwn pwysig a gafodd ei ofyn oedd, pan rydych yn blogio a'i chi sydd y siarad neu a ydych yn cuddio tu ol i rhywbeth neu rhywun arall. Yn fy marn i credaf fod nad yw pobl yn cuddio tu ol i ddim wrth flogio, credaf fod blog yn rhoi cyfle i bobl fentio am eu barn am bethau bob dydd. Mae amrywiad o ffordd i bobl rhoi ei barn, credaf fod ysgifennu mewn blog yn rhoi y rhyddid iddynt leisio ei barn ac rhoi cyfle i bobl eraill gytuno neu angytuno gyda nhw. http://www.richarddows.co.uk/ Mae'r blog yma yn cael ei adnewyddu yn aml gyda ei farn am wahanol bethau bob wythnos. Mae'n amlwg nad yw y blogiwr ym yn cuddio tu ol i ddim.

Gan fod blogio yn rhywbeth personnol, a yw hi yn bwysig fod y dudalen flogio yn un personnol a 'friendly' pan rydych yn mynd iddi? Credaf fod adio ychydig o luniau yn ei gwneud yn haws i rywun fwynhau y dudalen, mae'n rhoi datganid personnol iddi. Mae blogs megis http://www.behindthesofa.org.uk/ yn tynnu sylw a cadw diddordeb yn syth gan fod yn ddigon o liwiau a lluniau arni i gadw diddordeb pobl. Mae'r blog yma http://www.jeffsweather.com/ hefyd yn un diddorol gan fod yma luniau sydd yn cyfateb gyda'r ysgifen sydd arni. Yn wahanol i'r blog yma http://www.nydailynews.com/blogs/dailypolitics/2008/12/details-of-a-leadership-deal.html sydd ychydig yn fwy diflas gan nad oes yna luniau ond ysgrifen ac yn comments.

Mae'n bwysig os ydych yn flogiwr dyddiol fod eich blog yn un llwyddianus! Ar un peth sydd yn gwneud blog yn llwyddianus yw comments gan ddefnyddiwr eraill. gan mai comments fydd yn denu pobl i ddod yn ol i ddarllen y blog a gweld beth mae pobl eraill yn feddwl amdano, ac yna yn adio comment arall ei hunain i gadw y cyfathrebu fynd yn ei flaen. Ond i gael comments mae rhaid pobl weld a sylwi ar eich blog a'r ffordd hawdd o wneud hyn yw, creu links i wahanol wefanau, fel hyn bydd pobl yn sylwi ar eich blog ac yn talu sylw. Credaf fod blogs yn ffordd da o ddod a pobl at ei gilydd, a dyma pam gredaf fuasai blog llawn lluniau yn un hollol llwyddianus. http://www.picturedreams-studio-blog.blogspot.com/, http://picturethisgallery.wordpress.com/, dyma ddau flog agosaf a ddois o hyd iddynt yn dangos lluniau yn unig (gyda ychydig o hanes tu ol i'r llun). Mae'n amlwg fod y blogiau yma yn gweithio gan fod pobl yn gadael comments ar y lluniau. Yn fy marn i credaf fod lluniau yn rhywbeth haws i'w drafod yn aml iawn na ddarn o ysgrifen, a dyna pam credaf y byddai yn syniad fyddai yn llwyddo yn syth. Mae flicker yn enghraifft wych o blog lluniau unig sydd wedi llwyddo http://www.flickr.com/photos/ccgd/107274692/.

Mae blogio yn hynod bloblogaidd y dyddiau yma, mae rhywun wedi creu gwefan yn cylchdroi o'i hamgylch - Flock. http://www.flock.com/ yw browser sydd yn galluogi dod o hyd i flogiau yn syml. Mae hyn yn dangos poblogrwydd blogiau ym mywyd bob dydd pobl y genhedlaeth yma.

Wel dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn nol wythnos nesaf gyda mwy am E - Publishing

Hwyl Fawr am y Tro

Barawddeg y Ddarlith -: Succsesful Blog - Transforming a group of Comments

No comments:

Post a Comment