Sunday, 29 November 2009

HI DE HI

Wel am wythnos diddorol ....... dim darlith!!!! (Joc)

Oherwydd nad oedd yna ddarlith, rwyf wedi penderfynnu son ychydig am Podledu.

Ystur Podledu yw Castio rhywbeth i'r iPod. Medru ei weld ar y iPod lle bynnag y byddwch yn mynd. Medru gwylio clip teledu neu radio lle bynnag y byddwch yn y byd. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Podledu wedi dod yn boblogaidd iawn, mae mor syml a blogio, ac yr un mwyaf poblogaidd yw BBC i Player - http://www.bbc.co.uk/iplayer/. Mae modd gwylio unrhyw raglen BBC ar y BBC i Player ac hefyd mae modd ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur fel ei fod yn haws ei wylio. Mae mwy o sianeli podledu ar gael ar y we hefyd -

http://www.s4c.co.uk/clic/e_index.shtml
http://www.itv.com/ITVPlayer/
http://demand.five.tv/Home.aspx

Mae'r sianeli teledu yma yn galluogi unrhyw un ailwylio ei rhaglenni am ddim ar we, heb orfod ei roi ar dap. Ond nid yn unig rhaglenni teledu sydd yn cael ei wneud ar gyfer yr iPod, mae rhaglenni radio hefyd -
Mae podlediadau wedi cael i hychwanegu yn arbennig i'r gwefanau yma fel bod y gwrandawyr yn cael gwrando ar y clipiau gorau o'r rhaglen.
Mae podledu wedi dod mor boblogaidd nawr gan bobl, mae ganddo ei wefan ei hun -
Mae'r wefan yma yn galluogi i unrhyw un wneud podlediad ac ei roi i fynu, i bawb cael ei weld. Ond os mai fideo yw podlediad gyda pobl yn dweud ei barn, a ydi hi yn deg i ddweud fod You Tube - http://www.youtube.com/ hefyd yn wefan podledu?
Wel dyna ni am wythnos yma. Os ydych yn ffansio Podledu ar ol hwn mae'r wefan Clickcaster - http://www.clickcaster.com yn galluog ichi i greu un ac ei roi ar y we. Mwynhewch.
Hwyl Fawr am Y Tro
Brawddeg y Ddarlith
'Mobile Phones have a Big Effect on the World'

No comments:

Post a Comment