Sunday, 6 December 2009

HEI HO

Wel wythnos yma roeddan ni yn edrych ar Interactive Fiction - ond yn Raffigol! Yn syml - Visual Novels - nofelau sydd yn cael eu rhoi ar wefan ar ffurf llyfr llun. Un enghraifft dda o hyn yw Inanimate Alice www.inanimatealice.com/. Mae yna ychydig o Interactivity yn mynd ymlaen yma, pan mae'r defnyddiwr yn clicio i symyd y stori ymlaen. Mae storiau fel hyn gallu bod yn ddiddorol iawn os mai un person sydd yn eu darllen, os oes mwy na un gall fod yn ddiflas gan fod cyn lleied o Interactivity ynddo, mae'r clicio ond i un person ac felly byddai y llall yn gwylio ac efallai yn cael ei diflasu.

Mae storiau fel rhain i'w gweld mewn llawer i ffyrdd. Un amlwg sydd ar gael i blant yw'r gyfer 'Leap Frog' - http://www.leapfrog.com/en_gb/new_home.html. Mae Leap Frog yn gwmni sydd yn creu storiau ar ffurf gem ar gyfer plant. Mae llyfrau fel hyn yn mynd ers llawer i flwyddyn ac wedi cael eu datblygu fel mae technoleg yn symyd yn ei flaen. Mae rhaglenni teledu hefyd yn galluogi ychydig o ryngweithio. Mae gwefan y rhaglen Seasame Street - http://pbskids.org/sesame/#/games yn cynnwys gemau rhyngweithiol, llwyfrau syddyn galluogi y plant glicio ar y saeth i symyd y stori ymlaen. Dim byd rhy ffansi ond mae yn ffordd o gysylltu y plant gyda'r stori. Ond nid rhaglenni plant yn unig sydd yn galluogi hyn, Nadolig 2005 rhoddodd y BBC siawns i'r gwilwyr ymuno yn ei rhaglenni drwy roi taith rhyngweithiol ar y botwm coch. Doctor Who oedd y gem arbennig yma, a bellach mai ei gweld ar y wefan - http://www.bbc.co.uk/doctorwho/s4/games/attack-of-the-graske/. pwrpas y gem oedd dewis y ffordd cywir ar defnyddiau cywir i ddal y Graske! Roedd hon yn gem hynod o ryngweithiol gan ei bod yn galluogi y gwilwyr i ddewis y ffordd. Ond nid Doctor Who yw'r unig raglen sydd wedi gadael i'r gwilwyr ddewis diweddglo y stori. Yn 2005 fel wnaeth Casualty rhyddhau rhifyn arbennig o'u rhaglen yn cydfynd gyda wythnos DoNation. Roedd y rhifyn yma yn edrych ar fywyd dau wahanol glaf oedd angen organ transplant ond dim ond un oedd ar gael, ar ol cael ychydig o'u hanes swydd y gwilwyr oedd i ddewis pa un oedd am gael y llawdriniaeth, roedd yn galluogi y gwilwyr wneud y dewisdros y doctoriaid! http://www.bbc.co.uk/drama/casualty/donation/ / http://www.holby.tv/community/index.php?showtopic=45733.

Ar wahan i raglenni teledu mae Papur newydd hefyd yn cael ei ystyried fel math o ryngweithio, gan fod y darllenwr bob amser yn dewis y stori mae angen ei ddarllen yn hytrach na darllen pob stori. Mae tudalen fel hon gan y Daily Post http://www.dailypost.co.uk/ yn galluogi y darllenwyr ddewis y stori fydd yn eu harwain i wahanol storiau yn hytrach na dilyn pob tudalen fesul un!

Rhaglen o'r enw Ren'py - http://www.renpy.org/wiki/renpy/Ren%27Py - sydd yn gyfrifol am greu interactive fiction fel rhain. A gall unryw un ddefnyddio y rhaglen, ond eich bod nhw yn ei lawrlwytho i ddechrau!

A dyna ni am yr wythnos yma. Mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy am E - Publishing.

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith

Digital - Great Power

No comments:

Post a Comment