Sunday, 13 December 2009

HI DI HI

Wel gan ein bod yn dod i derfyn ar y tymor ac y Nadolig yn brysur nesau. Wythnos yma mi wnaethom edrych yn ol ar y holl ddarlithoedd a gweld beth oeddym yn meddwl oedd Technoleg, gan ystyried web - publishing, pod, blogging, interactive fiction a visual novels, tri mis ar ol i rhywun ofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf!

Pan yn meddwl am yr holl wahanol ffyrdd o e - publishing yma, roedd gwahanol fathau o syniadau yn dod i fy mhen.

Flash
Meddalwedd Rhaglen
Copyright
Rhyngrwyd
Lincs
Algorithms
I - Phone
Cyfrifiadur

Dyma oedd y syniadau a gefais i ond mewn dosbarth llawn myfyrwyr mae yn amlwg fod pawb yn mynd i gael syniadau ei hunain am beth yw Technoleg ym myd E - Publishing! Felly i wneud pethau yn haws dyma siart pry - cop yn dangos wahanol syniadau myfyrwyr ynglyn ar pwnc.

C:\Documents and Settings\Catrin\My Documents\PUB11.html

Roedd atebion pawb yn hollol wahanol, fel gwelwch yn y diagram.

Credaf fod hyn yn dangos nad os yna un wir ystyr i E - Publishing na Thechnoleg. Mae gan pawb ei safbwynt ei hun, a credaf fod cael safbwynt personnol yn bwysig i wneud yn siwr fod popeth yn cario ymlaen i ddatblygu.

A fydd gan rhywun un eglurhad o E - Publishing yn y dyfodol? Pwy a wyr, ond dwi'n siwr mewn blynyddoedd i ddod gall rhyun ateb y cwestiwn yma.

Wel dyna ni am wythnos yma. Fyddai yn ol wythnos nesaf i drafod mwy am E - publishing ac os yn bosib Podcastio!!

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg yr Wythnos

Think Critically!!

No comments:

Post a Comment