Sunday, 1 November 2009

HEI HO

Wel am ddarlith diddorol wythnos yma hefo lot o luniau yn cael eu gwneud, mwy am hynna wedyn.

Dechreuodd y ddarlith gyda'r dosbarth yn cael diffiniad pellach o E-Publishing a Destructive Technology. Galluogi pobl i ychwanegu deunydd at waith rhywun arall, ar cyfrifiadur yn ei sortio, dyna yw E - Publishing. Yn wahanol i Destructive Technology, ble mae effaith yn effeithio ar eraill heb feddwl yn y byd cyhoeddi. Yna aethom ymlaen i siarad am E - Publishing yn y byd newyddion.

Y stori roeddym yn ei defnyddio fel enghraifft oedd Koradzic boycott start of trail - www.news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/8325096. Fel arfer petai stori fel hon yn dod allan yn y newyddion, byddai rhyw ddyn bach wrth ddesg yn brysur yn ei theipio hi allan erbyn diwrnod wedyn, yna wythnos wedyn byddai y comments am y stori yn cael ei rhoi ar dudalen yn y papur. Ac ar ol hyn byddai y stori yn diflanu o'r newyddion.

Mae'r we yn galluogi pobl gael fersiwn newydd o'r newyddion, gyda links a comment yn cyrraedd o fewn eiliadau i'r stori. Mae pob link fel pennod mewn llyfr yn ein arwain at rhywbeth newydd. Mae fideos hefyd yn galluogi pobl i gael gweld y stori yn hyrach na darllen amdani. Mae links hefyd yn ddefnyddiol ar waelod stori ar y we sydd yn galluogi y darllenwyr weld storiau sydd yn debyg neu ymwneud hefo'r stori, hefyd mae links sydd yn gallu gwneud stori yn boblogaidd fel Facebook a E-mail Friend. Mae'r link fel arfer yn rheoli y stori ac felly yn arwain y pobl i wahanol lefydd, drwy ddefnyddio Hyperlink, maent yn galluneidio o un stori i'r llall.

Mae Video a Audio links yn dangos i'r darllenwyr sut ddigwyddodd y digwyddiadau, ond problem gyda hyn yw mae ychydig yn araf pan yn llwytho. Ond mae'n well gan rhai wylio y fideo i gael mwy am y stori. Ond a yw fideos yn gwneud cyfiawnder i'r stori? Gallent ddweud y stori hollol anghywir gyda'r un clip maent wedi eu ddewis. Mae links yn ddefnydiol yndi, ond a allai ormod o links wneud rhywun fynd ar goll?

Mae gwefan Americanaidd Washington Post - http://www.washingtonpost.com/ yn dangos y comment ar y dudalen i bawb cael eu gweld, fel mae gwefan papur newydd y Sun. - www.thesun.co.uk/sol/homepage/, ond hefo papur newydd maent yn cymryd diwrnod ychwanegol. Ond a oes gan Gomment effaith ar stori? Gall newid ystyr y stroi? Un problem gyda'r comments yw does gan neb syniad pwy sydd yn ei gadael ond mae un peth yn sicr, eu bod yn gwneud y stori yn fwy diddorol ac yn fwy poblogaidd.

Wrth son am hyn mae'n gwneud rhywun feddwl, a oes rhywun yn rheoli beth sydd yn cael ei gynnwys ar y we? Oes siwr iawn a'r Gate Keeper sydd yn gyfrifol am reoli pa wybodaeth mae'r pobl yn ei gael. Mae gwefan Archipelago - http://www.archipelago.org/ sydd yn dangos gwaith y cyhoedd ar y we, gwaith megis cerddi a storiau byr yn enghraifft wych gan fod y Gate Keeper yn cal ei ddefnyddio yma i ddarllen dros y gwaith cyn iddo cael ei roi ar y wefan.

Dyma ddau ddiagram yn dangos y broses yn syml! Cliciwch Yma

Wrth greu gwefan fel hon mae chwepwynt sydd yn bwysig ei ddilyn i gael llwyddiant -:

C - Clients - T pobl fydd yn ei ddarllen
A - Actors - Y pobl fydd yn gwneud y rhaglen i fynu e.e y cynllunwyr a'r ysgrifennwyr
T - Transformations - Y newid fydd yn digwydd cyn ychwanegu y gwaith at y wefan
W - Worldwide - Y sylw bydd yn ei gael ar draws y byd, y comments fydd yn cael ei gadael
O - Owner - Y Person sydd yn gyfrifol am y wefan
E - Enviroment - Popeth sydd yn effeithio arno na all y defnyddiwr wneud dim byd amdano!

Wrth ddilyn y chwe pwynt yma mae posib i redeg gwefan llwyddianus. Dyma ddiagram yn dangos sut byddai yn gweithio wrth ddefnyddio Lulu i gyhoeddi llyfr Hanes Lleol i'w werthu ar Amazon. Cliciwch yma i weld y diagram!

Dyna ni am wythnos yma, mi fyddai yn ol wythnos nesaf gyda mwy o wybodaeth a gobeithio mwy o ddiagramau am E - Publishing.

Hwyl Fawr am y Tro

Brawddeg y Ddarlith -:

'If you check your facts, you lose the story'

1 comment:

  1. [[quote]]Un problem gyda'r comments yw does gan neb syniad pwy sydd yn ei gadael ond mae un peth yn sicr, eu bod yn gwneud y stori yn fwy diddorol ac yn fwy poblogaidd.[[/quote]]
    I disagree. Although many comments remain anonymous, many blogs get regular commentators visiting and their voice and user names become known. Sometimes when reading the comments you will see two or three commentators refering to each other, obviously as though they are used to reading each other's ideas.

    ReplyDelete